Friday 25 September 2009

Ers fy nghofnod diwethaf, mae'r tymor wedi hen ddechrau. Mae'r olygfa y tu allan i fy ystafell wedi newid ac am y tro cyntaf gallaf weld y cwrs golff. Cefais gryn argraff gan y broses ddymchweliad o gyn ddosbarthiadau/gweithdai Adeiladwaith!
Yn ystod y pythefnos diwethaf gwelwyd dau ymweliad gan baneli asesu Dyfarniad Beacon, gydag un arall i ddod ym mis Hydref. Ychydig o adborth a roddir hyd yn hyn tan y cyhoeddiad yng nghynhadledd AOC. Dwi wastad yn hapus gydag ansawdd y mae staff a myfyrwyr yn eu rhoi i'r digwyddiadau yma. Mae'r ymweliad olaf yn digwydd yn fuan ym mis Hydref, felly pob lwc i bawb.

Mae'r siwrneiau i Gaerdydd yn parhau. Cyfarfodydd Prifathrawon, Grŵp Ymgynghorol Gweinidogaethol, Gweithgor14-19 Estynedig, rwyf yn ei Gadeirio. Dydd Llun yma bydd y Dirprwy Weinidog John Griffiths AC yn y coleg yn mynychu swper rydym yn ei gynnal ar ran CBI. Mae hi wastad yn braf gweld uwch wleidyddion yn gwneud siwrneiau i Ogledd Cymru. A bod yn deg, mae'r Dirprwy Weinidog yn ymwelydd rheolaidd.
Mae gwaith cynllunio manwl ar waith yn gysylltiedig i'r uno. Yn gynharach yr wythnos yma, fe gyfarfu'r Grŵp Llywio Uno i drafod amserlenni ac amcanion allweddol. Mae'r uno yn cynnig cyfleoedd i'r ddau goleg a bydd yn creu awyrgylch dysgu cynaliadwy, gan gofleidio newid yn gyflawn. Mae'r deg ymrwymiad wedi cael eu dosbarthu'n eang, o'r dechrau i drafodaethau presennol. Rwy'n gwerthfawrogi fod hyn yn amser sensitif i bawb sy'n ymglymedig ac am y rheswm yma mae hi'n bwysig ein bod yn cwblhau'r broses mor fuan ag sy'n bosibl.
Ar nodyn ysgafnach, mae tywydd mis Medi wedi gwneud yn iawn am haf siomedig. Mae hyn wedi cynnwys penwythnosau gwych o hwylio.
 
Since my last input the new term is now well underway. The view from my room has changed and for the first time I can see the golf course. I was so impressed at the demolition process of the former Construction classroom/ workshops!

The last two weeks have seen visits from two Beacon Award assessment panels, with a further one to do in October. Little feedback is provided at this stage until the announcement is made at the AOC conference. I’m always impressed by the quality of both staff and student input to these events. The last visit takes place in early October, so good luck to all.

The journeys to Cardiff continue, Principals’ meetings, Ministerial Advisory Group, 14-19 Extended Executive, which I Chair. This coming Monday, the Deputy Minister John Griffiths AM will be in college attending a dinner which we are hosting on behalf of the CBI. It’s always good to see senior politicians making the journey to North Wales. In fairness, the Deputy Minister is a frequent visitor.
Detailed planning work is now underway related to the merger. Earlier this week the Merger Steering Group met to discuss the timelines and key objectives. The merger offers opportunities for both colleges and will create a sustainable learning environment, fully embracing change. The ten commitments which have been widely circulated, form the core of the ongoing discussions. I appreciate that this is a sensitive time for all involved and for this reason it is important that we complete the process sooner rather than later.
On a lighter note, the September weather has somewhat made up for a disappointing summer. This has included some excellent weekend sails.

Friday 11 September 2009

It’s been a busy time since the last posting. The year for me always starts with the Annual All Staff meetings at Rhos and Rhyl. It was a pleasure to welcome staff back to college, old and new. Business is now back in full swing, with meetings in Cardiff last week and this week. I am a member of the Ministerial Advisory Group for Children, Education, Lifelong Learning and Skills. This committee is responsible for helping shape the future for education in Wales as well as advising the Minister on key educational issues. This week ends with my 2nd visit of the month to Cardiff, to the CBI Wales Council.

Monday morning this week thankfully dawned dry and bright as we all welcomed new 1st year students to the college as they arrived on the buses. It’s a real pleasure to see the students back in college and we’re looking forward to welcoming the returning 2nd years and higher education students next week.

This week, I was very pleased to be able to meet the first group of students to become part of the ‘Rhyl Sixth’. The meeting with the students provided the opportunity to explain the arrangements for the coming year and also the benefits of becoming an integral part of the college. This is the first time in recent years that a college has taken over the running of sixth form provision. Working in partnership with Denbighshire County Council, the project is expected to be “ground breaking” and add significantly to opportunities in the area.

I’d also like to thank the staff of the college for their patience and help over the last few months whilst the college continues the process of building renewal. Many staff have been directly involved and have worked extremely hard to prepare the college for the new student intake, this commitment is greatly appreciated. At the front of the ollege the demolition is now

nearing completion and extending the car parking and related landscaping can now commence. By November I expect the work to be completed. This will bring this phase of work to completion. (Pictures above of how fast the demolition has moved)

At the same time the next round of developments will start with the development of the new Institute of Health and the enhanced staff and student accommodation. Most of this work will be concentrated on the top road of the campus. Every effort will be made to minimise disruption. Likewise of staff at Rhyl, the Rhyl Sixth development will commence at the end of October. (The Rhyl Sixth website can be located by clicking here.)

Next Monday, I’m delighted to be part of the team responding to the assessment visit as a consequence of being shortlisted for the AOC Beacon Award. We have been shortlisted in three categories.

Discussions on the merger with Coleg Meirion Dwyfor are moving ahead. Important meetings of the Executive Group and the Merger Steering Group are taking place over the next few weeks. A consultation document is in the planning phase and is scheduled for release by the end of October. The Merger website can be located by clicking here.

Bu’n amser prysur iawn ers y cofnod diwethaf. Mae’r flwyddyn i mi wastad yn dechrau gyda chyfarfodydd Staff Blynyddol yn Rhos a’r Rhyl. Roedd hi’n bleser croesawu staff nôl i’r coleg, yn hen a newydd. Mae busnes nawr yn ei anterth eto, gyda chyfarfodydd yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf a’r wythnos yma. Rwyf nawr yn aelod o Grŵp Cynghori Gweinidogaethol i Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Mae’r pwyllgor yma’n gyfrifol am helpu i siapio dyfodol addysg yng Nghymru yn ogystal â chynghori’r Gweinidog am faterion addysgiadol allweddol.

Mae’r mis yma’n gorffen gyda fy 2ail ymweliad o’r mis i Gaerdydd, i Gyngor CBI Cymru.

Gwawriodd bore Llun yr wythnos yma’n sych a disglair wrth i ni groesawu myfyrwyr blwyddyn 1af newydd i’r coleg wrth iddynt gyrraedd ar y bysiau. Roedd hi wir yn bleser gweld y myfyrwyr nôl yn y coleg ac edrychwn ymlaen i groesawu myfyrwyr yr 2ail flwyddyn a myfyrwyr addysg uwch yr wythnos nesaf.
Yr wythnos yma, roedd hi’n bleser gen i gwrdd â’r grŵp cyntaf o fyfyrwyr i fod yn rhan o ‘Chweched y Rhyl’. Wrth gwrdd â’r myfyrwyr cefais y cyfle i egluro’r trefniadau am y flwyddyn sydd i ddod a’r manteision fod yn rhan integrol o’r coleg. Dyma’r tro cyntaf yn y blynyddoedd diwethaf i goleg dderbyn cyfrifoldeb am redeg darpariaeth chweched dosbarth. Gan weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Ddinbych, disgwylir i’r prosiect dorri tir newydd ac ychwanegu’n arwyddocaol i’r ardal.


Fe hoffwn hefyd ddiolch i staff y coleg am eu amynedd a chymorth dros y misoedd diwethaf tra fod y coleg yn parhau gyda’r broses o adnewyddu adeiladau.

Mae nifer o staff wedi bod yn ymglymedig ac wedi gweithio’n arbennig o galed i baratoi’r coleg ar gyfer derbyniad myfyrwyr newydd, fe werthfawrogir yr ymrwymiad yma’n fawr.
Ym mlaen y coleg mae’r dymchweliad bron a chael ei gwblhau a gellir dechrau ymestyn y maes parcio a’r tirlunio cysylltiedig. Erbyn mis Tachwedd rwy’n disgwyl y bydd y gwaith yma wedi ei gwblhau. Bydd hyn yn dod a’r cyfnod yma o waith i ben.

Ar yr un pryd bydd y rownd nesaf o ddatblygiadau’n dechrau gyda datblygu Sefydliad Iechyd newydd a mwy o lefydd i staff a myfyrwyr. Canolbwyntir y mwyafrif o’r gwaith ar ffordd uchaf y campws. Caiff pob ymdrech ei wneud i leihau ymyrraeth.

Yr un modd i staff yn y Rhyl bydd datblygiad Chweched y Rhyl yn dechrau ar ddiwedd Hydref.

Ddydd Llun nesaf, mae’n bleser gen i fod yn rhan o dîm sy’n ymateb i ymweliad asesiad o ganlyniad i gael ein rhoi ar restr fer AOC Gwobr Beacon. Rydym wedi cael ein gosod ar restr fer mewn tri categori.

Mae trafodaethau am yr uniad gyda Choleg Meirion Dwyfor yn symud ymlaen. Mae cyfarfodydd pwysig y Grŵp Gweithgor a Grŵp Llywio Uno yn cael eu cynnal dros yr wythnos nesaf. Mae dogfen ymgynghori wrthi’n cael ei greu a bwriedir ei ryddhau erbyn diwedd yr Hydref.


Wednesday 2 September 2009

Summer Update

Since the last posting the summer months have been eventful. The ongoing estates development programme has witnessed intense activity on the main college site. This has resulted in the Marine and Built Environment Centre being completed well over a month ahead of schedule. Currently the transfer process has begun and thanks to all my staff and external contractors who have been involved with the project. Whilst the site is slowly being transformed work remains to be completed related to car parking and landscaping to ensure that it is functioning to meet the new student intake. At the same time additional projects have been secured over the summer and new programmes are about to be launched which will contribute to the modernisation programme. This will include: The Rhyl Sixth, the Institute of Health and a new Community Centre in Colwyn Bay town centre.

The summer has also provided the opportunity for our first joint presence with Coleg Meirion Dwyfor at the Bala National Eisteddfod. This was a very successful event providing an invaluable opportunity to network and to consolidate our plans. More information will be released over the coming months related to the merger. Following a successful due diligence report the college is now embarking on a detailed planning phase.

As the new term looms, I was pleased at the success of the college students on A Level results day recording a 100% pass rates in 30 subjects. The overall A Level pass rate was 96%; the fourth year running that it has been in excess of 95%. Students are celebrating 100% pass rates across a wide range of subjects, strings of top A grades, and offers from leading universities to study traditional and highly specialised subjects now being confirmed. The College has one of the largest A/AS group of students in North Wales, with nearly 600 student entries studying 56 AS and A Level subjects this year. The number of A/AS students represents a 300% increase in two years. The majority of A/AS students at Coleg Llandrillo Cymru study for the Welsh Baccalaureate qualification and the pass rate was considerably above the national average. The College is the largest provider of the Welsh Baccalaureate in North Wales. The Welsh Baccalaureate, with its additional 120 UCAS points, provides a real bonus for individual progression. These results follow the recent success of International Baccalaureate students at Coleg Llandrillo Cymru, who achieved outstanding grades. 90% of students achieved the full International Baccalaureate Diploma, which is significantly higher than the world average pass rate. Congratulations to all our learners and staff who help make this possible.

Thoughts now turn toward the end of this Admin week when I hold my annual all staff meetings, at Rhos at 9.30am on Friday and Rhyl at 1pm. It’s amazing how fast time has gone and as I start the 21st year at the college, everything around has changed, with the exception of my office surrounds. What can I do about that?

I’ll be posting up again soon; in the meantime, can I take this opportunity to wish everyone a successful year.

Diweddariad Blog yr Haf

Ers y cofnod diwethaf mae misoedd yr haf wedi bod yn llawn digwyddiad. Gwelwyd gweithgareddau dwys ar brif safle’r coleg o ganlyniad i ddatblygiad ystadau sy’n parhau. Golygodd hyn fod y Ganolfan Morwrol ac Amgylchedd Adeiledig wedi cael ei gwblhau dros fis o flaen llaw. Mae’r broses drawsffurfio wedi dechrau a diolch i fy holl staff a chontractwyr allanol sydd wedi bod yn ymglymedig â’r prosiect.


Tra fod y safle’n cael ei drawsffurfio’n araf, mae gwaith ar ôl i’w wneud yn gysylltiedig i faes parcio a thirlunio er mwyn sicrhau ei fod yn gweithredu i gwrdd â’r derbyniad newydd o fyfyrwyr. Ar yr un pryd mae prosiectau ychwanegol wedi cael eu diogelu dros yr haf ac mae rhaglenni newydd ar fin cael eu lansio a fydd yn cyfrannu at y rhaglen moderneiddio. Bydd hyn yn cynnwys: Chweched y Rhyl, Sefydliad Iechyd a Chanolfan Cymunedol newydd yng nghanol tref Bae Colwyn.

Darparodd yr haf y cyfle ar gyfer ein presenoldeb ar y cyd gyda Choleg Meirion Dwyfor yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala. Roedd hwn yn ddigwyddiad llwyddiannus iawn gan ddarparu cyfle amhrisiadwy i gryfhau ein cynlluniau. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei ryddhau yn y misoedd nesaf yn gysylltiedig i’r uno. Yn dilyn adroddiad diwydrwydd dyladwy llwyddiannus mae’r coleg nawr yn dechrau ar gam cynllunio manwl.

Wrth i’r tymor newydd ddynesu, roeddwn i’n falch gyda llwyddiant myfyrwyr y coleg ar ddiwrnod canlyniadau Lefel A gan gofnodi cyfraddau pasio o 100% mewn 30 pwnc. Ar y cyfan, roedd y cyfradd pas Lefel A yn 96%; y bedwaredd flynedd yn olynol roedd yn fwy na 95%.

Mae myfyrwyr yn dathlu cyfraddau pas o 100% ar draws ystod eang o bynciau, cyfres o raddau A, ac mae cynigion gan brifysgolion arweiniol i astudio pynciau traddodiadol ac arbenigol nawr wedi eu cadarnhau.

Mae gan y Coleg un o’r grŵp mwyaf o fyfyrwyr A/AS yng Ngogledd Cymru, gyda bron i 600 o fyfyrwyr yn astudio 56 pwnc Lefel AS ac A eleni. Mae’r nifer o fyfyrwyr A/AS yn cynrychioli cynnydd o 300% mewn dwy flynedd.

Mae’r mwyafrif o fyfyrwyr A/AS yng Ngholeg Llandrillo Cymru yn astudio ar gyfer y Fagloriaeth Gymraeg ac roedd y cyfradd pasio yn llawer uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol. Y Coleg yw’r darparwr mwyaf o’r Fagloriaeth Gymraeg yng Ngogledd Cymru. Mae’r Fagloriaeth Gymraeg, gyda’i 120 pwynt UCAS ychwanegol, yn darparu gwir fonws i ddatblygiad unigolyn.

Mae’r canlyniadau yma’n dilyn llwyddiant diweddar y Fagloriaeth Ryngwladol yng Ngholeg Llandrillo Cymru, a enillodd raddau rhagorol. Cyflawnodd 90% o’r myfyrwyr Ddiploma llawn y Fagloriaeth Ryngwladol, sydd yn llawer uwch na’r cyfartaledd pasio byd eang. Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr a staff a gynorthwyodd i wneud hyn yn bosibl.

Mae meddyliau nawr yn troi tuag at ddiwedd yr wythnos Weinyddol yma pan fyddaf yn cynnal fy nghyfarfodydd staff blynyddol, yn Rhos am 9.30yb ar ddydd Gwener a’r Rhyl am 1yp. Mae’n anhygoel pa mor gyflym mae amser yn hedfan wrth imi ddechrau fy 21ain mlynedd yn y coleg, mae pob dim o’n hamgylch wedi newid, ag eithrio fy swyddfa i. Beth allaf i wneud am hynny?

Byddaf yn postio eto’n fuan; yn y cyfamser, fe hoffwn gymryd y cyfle i ddymuno blwyddyn lwyddiannus i bawb.