Tuesday 12 January 2010

Blwyddyn Newydd Dda - Happy New Year

Gobeithio fod pawb wedi mwynhau’r gwyliau. Er bod y coleg wedi cau am wythnos, parhau wnaeth y coleg i fod yn le prysur cyn ac ar ôl y Nadolig. Ond yn fwy amlwg na dim arall, a dwi’n siŵr bydd y rhan fwyaf ohonoch yn cytuno, yw’r aflonyddwch sydd wedi bod â’r tywydd. Pan mae’n bosib ceisiwn gadw ein safleoedd ar agor, cyn belled â’i fod yn ddiogel i ni wneud hynny. Pe bai’r coleg yn penderfynu cau am unrhyw reswm, byddwn yn diweddaru gwefan y coleg yn ogystal â’r holl orsafoedd radio.
Rwy’n gobeithio y gallwn osgoi unrhyw amhariad i’r myfyrwyr sy’n sefyll eu harholiadau yr wythnos hon.
Roedd mis Rhagfyr, cyn gwyliau’r Nadolig, yn llawn o gyfarfodydd ac yn nghyfarfod Bwrdd y coleg fe gymeradwywyd i ni fynd ymlaen a chyflwyno cais i’r Cynulliad ar gyfer yr uniad â Choleg Meirion Dwyfor. Dyma gyfnod cyffrous iawn i’r ddau goleg ac rydym yn disgwyl am y canlyniad.
Yn gymdeithasol, cafodd y coleg barti Nadolig gwych, ac ymddangosai fod pawb wedi mwynhau eu hunain yn fawr..........
Felly ymlaen i 2010, gan obeithio cawn flwyddyn gadarnhaol ac edrychwn ymlaen yn fawr i’r heriau newydd a ddaw.
I hope people have had an enjoyable break. The college despite closing for a week, remained a busy place leading up to and immediately after Christmas. Most of all, as many readers will I am sure agree, the last week has been the disrupted by the weather. Wherever possible we try to keep all our sites open, as long as it is safe to do so. Should the college decide to close for any reason we keep the college website, and all local radio stations updated.

I hope we can try and ensure our students who are sitting exams this week are not disrupted in any way.

December, prior to the Christmas break was full of meetings and in particular our Board meeting, when it was approved that the college could proceed to submit an application to the Assembly to merge with Coleg Meirion Dwyfor. This is an exciting time for both colleges and we await the outcome.

Socially, the college had an excellent Christmas party, where it seems a good time was had by all………..

So on to 2010, which I hope will be a very positive year and we very much look forward to the new challenges it brings.