Mae’r olygfa allan o fy swyddfa yn parhau i newid ers fy niweddariad diwethaf, wrth i balwyr osod peipiau a chywasgu’r ardal i sicrhau had oes mannau meddal yn datblygu.
Mae’r olaf o baneli rhestr fer Beacon wedi cael eu cwblhau ac rydym nawr yn aros i glywed os ydym wedi ennill Gwobr Beacon, a fydd yn cael ei gyhoeddi yng Nghynhadledd Flynyddol Cymdeithas Colegau yn Birmingham ym mis Tachwedd.
Cynhaliwyd swper llwyddiannus iawn yn y coleg gyda’r CBI yr wythnos diwethaf ble y siaradodd y Gweinidog John Griffiths am y sialens sgiliau i Gymru.
Mae’r broses ymgynghoriad uno yn ennyn cyflymder. Yn bresennol rydym yn cwblhau ein dogfennaeth cyn ei ryddhau at bwrpasau ymgynghori.
Fedrai’m coelio mai dim ond wythnos sydd ar ôl tan hanner tymor. Mae’n teimlo fel mai hwn yw un o’r tymhorau cyflymaf hyd yn hyn , ond mae’n siŵr fy mod yn dweud hynny bob blwyddyn. Yn bendant dwi wedi cael wythnosau prysur a dwi’n gwybod fod y staff wedi hefyd. Dwi’n ddiolchgar am ymdrechion pawb gyda’r system gofrestru newydd ar adeg prysur o’r flwyddyn.
Fe es ar fy nhrip olaf i ymweld â cholegau eraill yn gynharach yr wythnos yma. Gyda fy nghydweithwyr, fe aethom i ymweld â Choleg Adam Smith yn yr Alban. Roedd yn ymweliad buddiol gan ddarparu sawl awgrym at y dyfodol.
Yn ddiweddar cefais wahoddiad i fod yn rhan o Grŵp Cyfeirio Adolygiad Addysg Uwch. Bydd y grŵp yn gweithredu ymhellach ar adroddiad ardderchog a baratowyd gan yr Athro Merfyn Jones am ddatblygiad AU yn y dyfodol yng Nghymru. Rhagwelir y bydd gan lais AB rôl bwysig i’w chwarae yn y system esblygol.
Wrth i mi bostio hwn fore Gwener, fe hoffwn roi sylw am y noson ardderchog a fynychais neithiwr yn Swper Gala Pen-blwydd 125ain Prifysgol Bangor, ble roedd Only Men Aloud yn chwarae. Roedd yn gyfle ardderchog i rwydweithio ac i fwynhau’r profiad.- The view from my office continues to change since the last update, as diggers lay pipes and compact the area to ensure no soft spots develop.
- The last of the Beacon shortlist panels have now been completed and we are looking forward to hearing if we win a Beacon Award, which would be announced at the Association of College’s Annual Conference in Birmingham in November.
- A very successful dinner was held at the college with the CBI last week at which the Minister John Griffiths spoke at on the skills challenge for Wales.
- The merger consultation process is now picking up speed. We are currently finalising our documentation prior to general release for consultation purposes.
- I can’t believe it is now a week until half term. This feels like one of the fastest term’s so far, but I think we say that every year. I’ve certainly had a busy few weeks and I know staff have too. I am grateful for everyone’s efforts with the new register system at a busy time of year.
- The last of my trips to visit other colleges took place earlier this week. Together with colleagues, we visited Adam Smith College in Scotland. It was a worthwhile visit providing many pointers for the future.
- I have also recently been invited to be part of the Higher Education Review Reference Group. The group will be taking forward the excellent report prepared by Professor Merfyn Jones on the future development of HE in Wales. It is anticipated that the FE voice will have an important role to play in the evolving system.
- As I post this on a Friday morning, I would like to comment on the excellent evening I attended last night at Bangor University’s 125th Anniversary Gala Dinner, where Only Men Aloud were playing. It proved to be an excellent opportunity to network and to enjoy the experience.
Friday, 16 October 2009
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment