Wednesday 2 September 2009

Summer Update

Since the last posting the summer months have been eventful. The ongoing estates development programme has witnessed intense activity on the main college site. This has resulted in the Marine and Built Environment Centre being completed well over a month ahead of schedule. Currently the transfer process has begun and thanks to all my staff and external contractors who have been involved with the project. Whilst the site is slowly being transformed work remains to be completed related to car parking and landscaping to ensure that it is functioning to meet the new student intake. At the same time additional projects have been secured over the summer and new programmes are about to be launched which will contribute to the modernisation programme. This will include: The Rhyl Sixth, the Institute of Health and a new Community Centre in Colwyn Bay town centre.

The summer has also provided the opportunity for our first joint presence with Coleg Meirion Dwyfor at the Bala National Eisteddfod. This was a very successful event providing an invaluable opportunity to network and to consolidate our plans. More information will be released over the coming months related to the merger. Following a successful due diligence report the college is now embarking on a detailed planning phase.

As the new term looms, I was pleased at the success of the college students on A Level results day recording a 100% pass rates in 30 subjects. The overall A Level pass rate was 96%; the fourth year running that it has been in excess of 95%. Students are celebrating 100% pass rates across a wide range of subjects, strings of top A grades, and offers from leading universities to study traditional and highly specialised subjects now being confirmed. The College has one of the largest A/AS group of students in North Wales, with nearly 600 student entries studying 56 AS and A Level subjects this year. The number of A/AS students represents a 300% increase in two years. The majority of A/AS students at Coleg Llandrillo Cymru study for the Welsh Baccalaureate qualification and the pass rate was considerably above the national average. The College is the largest provider of the Welsh Baccalaureate in North Wales. The Welsh Baccalaureate, with its additional 120 UCAS points, provides a real bonus for individual progression. These results follow the recent success of International Baccalaureate students at Coleg Llandrillo Cymru, who achieved outstanding grades. 90% of students achieved the full International Baccalaureate Diploma, which is significantly higher than the world average pass rate. Congratulations to all our learners and staff who help make this possible.

Thoughts now turn toward the end of this Admin week when I hold my annual all staff meetings, at Rhos at 9.30am on Friday and Rhyl at 1pm. It’s amazing how fast time has gone and as I start the 21st year at the college, everything around has changed, with the exception of my office surrounds. What can I do about that?

I’ll be posting up again soon; in the meantime, can I take this opportunity to wish everyone a successful year.

Diweddariad Blog yr Haf

Ers y cofnod diwethaf mae misoedd yr haf wedi bod yn llawn digwyddiad. Gwelwyd gweithgareddau dwys ar brif safle’r coleg o ganlyniad i ddatblygiad ystadau sy’n parhau. Golygodd hyn fod y Ganolfan Morwrol ac Amgylchedd Adeiledig wedi cael ei gwblhau dros fis o flaen llaw. Mae’r broses drawsffurfio wedi dechrau a diolch i fy holl staff a chontractwyr allanol sydd wedi bod yn ymglymedig â’r prosiect.


Tra fod y safle’n cael ei drawsffurfio’n araf, mae gwaith ar ôl i’w wneud yn gysylltiedig i faes parcio a thirlunio er mwyn sicrhau ei fod yn gweithredu i gwrdd â’r derbyniad newydd o fyfyrwyr. Ar yr un pryd mae prosiectau ychwanegol wedi cael eu diogelu dros yr haf ac mae rhaglenni newydd ar fin cael eu lansio a fydd yn cyfrannu at y rhaglen moderneiddio. Bydd hyn yn cynnwys: Chweched y Rhyl, Sefydliad Iechyd a Chanolfan Cymunedol newydd yng nghanol tref Bae Colwyn.

Darparodd yr haf y cyfle ar gyfer ein presenoldeb ar y cyd gyda Choleg Meirion Dwyfor yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala. Roedd hwn yn ddigwyddiad llwyddiannus iawn gan ddarparu cyfle amhrisiadwy i gryfhau ein cynlluniau. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei ryddhau yn y misoedd nesaf yn gysylltiedig i’r uno. Yn dilyn adroddiad diwydrwydd dyladwy llwyddiannus mae’r coleg nawr yn dechrau ar gam cynllunio manwl.

Wrth i’r tymor newydd ddynesu, roeddwn i’n falch gyda llwyddiant myfyrwyr y coleg ar ddiwrnod canlyniadau Lefel A gan gofnodi cyfraddau pasio o 100% mewn 30 pwnc. Ar y cyfan, roedd y cyfradd pas Lefel A yn 96%; y bedwaredd flynedd yn olynol roedd yn fwy na 95%.

Mae myfyrwyr yn dathlu cyfraddau pas o 100% ar draws ystod eang o bynciau, cyfres o raddau A, ac mae cynigion gan brifysgolion arweiniol i astudio pynciau traddodiadol ac arbenigol nawr wedi eu cadarnhau.

Mae gan y Coleg un o’r grŵp mwyaf o fyfyrwyr A/AS yng Ngogledd Cymru, gyda bron i 600 o fyfyrwyr yn astudio 56 pwnc Lefel AS ac A eleni. Mae’r nifer o fyfyrwyr A/AS yn cynrychioli cynnydd o 300% mewn dwy flynedd.

Mae’r mwyafrif o fyfyrwyr A/AS yng Ngholeg Llandrillo Cymru yn astudio ar gyfer y Fagloriaeth Gymraeg ac roedd y cyfradd pasio yn llawer uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol. Y Coleg yw’r darparwr mwyaf o’r Fagloriaeth Gymraeg yng Ngogledd Cymru. Mae’r Fagloriaeth Gymraeg, gyda’i 120 pwynt UCAS ychwanegol, yn darparu gwir fonws i ddatblygiad unigolyn.

Mae’r canlyniadau yma’n dilyn llwyddiant diweddar y Fagloriaeth Ryngwladol yng Ngholeg Llandrillo Cymru, a enillodd raddau rhagorol. Cyflawnodd 90% o’r myfyrwyr Ddiploma llawn y Fagloriaeth Ryngwladol, sydd yn llawer uwch na’r cyfartaledd pasio byd eang. Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr a staff a gynorthwyodd i wneud hyn yn bosibl.

Mae meddyliau nawr yn troi tuag at ddiwedd yr wythnos Weinyddol yma pan fyddaf yn cynnal fy nghyfarfodydd staff blynyddol, yn Rhos am 9.30yb ar ddydd Gwener a’r Rhyl am 1yp. Mae’n anhygoel pa mor gyflym mae amser yn hedfan wrth imi ddechrau fy 21ain mlynedd yn y coleg, mae pob dim o’n hamgylch wedi newid, ag eithrio fy swyddfa i. Beth allaf i wneud am hynny?

Byddaf yn postio eto’n fuan; yn y cyfamser, fe hoffwn gymryd y cyfle i ddymuno blwyddyn lwyddiannus i bawb.

No comments: